1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Dial feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny ti a gesglir at dy bobl.
3 A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i'r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr Arglwydd ar Midian.
4 Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i'r rhyfel.