18 A phob plentyn o'r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi.
19 Ac arhoswch chwithau o'r tu allan i'r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a'r seithfed dydd, chwi a'ch carcharorion.
20 Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.
21 A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i'r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses:
22 Yn unig yr aur, a'r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a'r plwm;
23 Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy'r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir â'r dwfr neilltuaeth: a'r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig.
24 A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i'r gwersyll.