21 A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i'r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses:
22 Yn unig yr aur, a'r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a'r plwm;
23 Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy'r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir â'r dwfr neilltuaeth: a'r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig.
24 A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i'r gwersyll.
25 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
26 Cymer nifer yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau‐cenedl y gynulleidfa:
27 A rhanna'r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i'r filwriaeth, a'r holl gynulleidfa.