26 Cymer nifer yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau‐cenedl y gynulleidfa:
27 A rhanna'r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i'r filwriaeth, a'r holl gynulleidfa.
28 A chyfod deyrnged i'r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i'r filwriaeth; un enaid o bob pum cant o'r dynion, ac o'r eidionau, ac o'r asynnod, ac o'r defaid.
29 Cymerwch hyn o'u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd.
30 Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, o'r eidionau, o'r asynnod, ac o'r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i'r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd.
31 A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
32 A'r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid,