31 A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
32 A'r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid,
33 A deuddeg a thrigain mil o eidionau,
34 Ac un fil a thrigain o asynnod,
35 Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr, trwy orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau.
36 A'r hanner, sef rhan y rhai a aethant i'r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;
37 A theyrnged yr Arglwydd o'r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain.