36 A'r hanner, sef rhan y rhai a aethant i'r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;
37 A theyrnged yr Arglwydd o'r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain.
38 A'r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a'u teyrnged i'r Arglwydd oedd ddeuddeg a thrigain.
39 A'r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a'u teyrnged i'r Arglwydd oedd un a thrigain.
40 A'r dynion oedd un fil ar bymtheg; a'u teyrnged i'r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain.
41 A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleasar yr offeiriad, megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
42 Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr,