4 Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i'r rhyfel.
5 A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i'r rhyfel.
6 Ac anfonodd Moses hwynt i'r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i'r rhyfel, â dodrefn y cysegr, a'r utgyrn i utganu yn ei law.
7 A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses; ac a laddasant bob gwryw.
8 Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyda'u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â'r cleddyf.
9 Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a'u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a'u holl dda hwynt, a'u holl olud hwynt.
10 Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a'u holl dyrau, a losgasant â thân.