43 Sef rhan y gynulleidfa o'r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;
44 Ac o'r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain;
45 Ac o'r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant;
46 Ac o'r dynion, un fil ar bymtheg.
47 Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, ac o'r anifeiliaid, ac a'u rhoddes hwynt i'r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
48 A'r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd:
49 A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom.