47 Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, ac o'r anifeiliaid, ac a'u rhoddes hwynt i'r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
48 A'r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd:
49 A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom.
50 Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i'r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd.
51 A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll.
52 Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i'r Arglwydd, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau.
53 (Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.)