9 Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a'u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a'u holl dda hwynt, a'u holl olud hwynt.
10 Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a'u holl dyrau, a losgasant â thân.
11 A chymerasant yr holl ysbail, a'r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.
12 Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a'r caffaeliad, a'r ysbail, i'r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
13 Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i'w cyfarfod hwynt o'r tu allan i'r gwersyll
14 A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chapteiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel.
15 A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?