7 A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.
8 A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i'r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.
9 A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno.
10 A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch.
11 A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.
12 Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca.
13 A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus.