1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma'r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a'i therfynau,)
3 A'ch tu deau fydd o anialwch Sin, gerllaw Edom: a therfyn y deau fydd i chwi o gwr y môr heli tua'r dwyrain.
4 A'ch terfyn a amgylchyna o'r deau i riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a'i fynediad allan fydd o'r deau i Cades‐Barnea, ac a â allan i Hasar‐Adar, a throsodd i Asmon: