13 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.
14 Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth.
15 Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o'r tu yma i'r Iorddonen, yn agos i Jericho, tua'r dwyrain a chodiad haul.
16 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
17 Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun.
18 Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.
19 Ac fel dyma enwau y gwŷr: o lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne.