17 Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun.
18 Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.
19 Ac fel dyma enwau y gwŷr: o lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne.
20 Ac o lwyth meibion Simeon, Semuel mab Ammihud.
21 O lwyth Benjamin, Elidad mab Cislon.
22 A Bucci mab Jogli, yn bennaeth o lwyth meibion Dan.
23 O feibion Joseff, Haniel mab Effod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse.