3 A'ch tu deau fydd o anialwch Sin, gerllaw Edom: a therfyn y deau fydd i chwi o gwr y môr heli tua'r dwyrain.
4 A'ch terfyn a amgylchyna o'r deau i riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a'i fynediad allan fydd o'r deau i Cades‐Barnea, ac a â allan i Hasar‐Adar, a throsodd i Asmon:
5 A'r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aifft; a'i fynediad ef allan a fydd tua'r gorllewin.
6 A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin.
7 A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o'r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor.
8 O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.
9 A'r terfyn a â allan tua Siffron; a'i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐Enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi.