5 A'r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aifft; a'i fynediad ef allan a fydd tua'r gorllewin.
6 A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin.
7 A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o'r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor.
8 O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.
9 A'r terfyn a â allan tua Siffron; a'i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐Enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi.
10 A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar‐Enan i Seffam.
11 Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla, ar du dwyrain Ain; a disgynned y terfyn, ac aed hyd ystlys môr Cinereth tua'r dwyrain.