7 A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o'r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor.
8 O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.
9 A'r terfyn a â allan tua Siffron; a'i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐Enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi.
10 A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar‐Enan i Seffam.
11 Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla, ar du dwyrain Ain; a disgynned y terfyn, ac aed hyd ystlys môr Cinereth tua'r dwyrain.
12 A'r terfyn a â i waered tua'r Iorddonen; a'i ddiwedd fydd y môr heli. Dyma'r tir fydd i chwi a'i derfynau oddi amgylch.
13 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.