1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddywedyd
2 Gorchymyn i feibion Israel, roddi ohonynt i'r Lefiaid, o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasoedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i'r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o'u hamgylch.
3 A'r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt; a'u pentrefol feysydd fyddant i'w hanifeiliaid, ac i'w cyfoeth, ac i'w holl fwystfilod.
4 A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i'r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch.
5 A mesurwch o'r tu allan i'r ddinas, o du'r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua'r deau ddwy fil o gufyddau, a thua'r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua'r gogledd ddwy fil o gufyddau; a'r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd.