10 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;
11 Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.
12 A'r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.
13 Ac o'r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.
14 Tair dinas a roddwch o'r tu yma i'r Iorddonen, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.
15 I feibion Israel, ac i'r dieithr, ac i'r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd, ffoi yno.
16 Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.