16 Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.
17 Ac os â charreg law, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, y trawodd ef, a'i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.
18 Neu os efe a'i trawodd ef â llawffon, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, a'i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.
19 Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef, efe a'i lladd ef.
20 Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo efe farw;
21 Neu ei daro ef â'i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a'i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef.
22 Ond os yn ddisymwth, heb alanastra, y gwthia efe ef, neu y teifl ato un offeryn yn ddifwriad;