26 Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi;
27 A'i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddialydd y gwaed y llofrudd; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn:
28 Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr archoffeiriad ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth.
29 A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau.
30 Pwy bynnag a laddo ddyn, wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn, i beri iddo farw.
31 Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.
32 Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth yr offeiriad;