5 A mesurwch o'r tu allan i'r ddinas, o du'r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua'r deau ddwy fil o gufyddau, a thua'r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua'r gogledd ddwy fil o gufyddau; a'r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd.
6 Ac o'r dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo'r llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg.
7 Yr holl ddinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a'u pentrefol feysydd.
8 A'r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr aml eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i'r Lefiaid o'i ddinasoedd.
9 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
10 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;
11 Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.