1 Pennau‐cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth meibion Joseff, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant gerbron Moses, a cherbron y penaduriaid, sef pennau‐cenedl meibion Israel;
2 Ac a ddywedasant, Yr Arglwydd a orchmynnodd i'm harglwydd roddi'r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a'm harglwydd a orchmynnwyd gan yr Arglwydd, i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i'w ferched.
3 Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a'i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt: a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni.
4 A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni.
5 A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn.
6 Dyma y gair a orchmynnodd yr Arglwydd am ferched Salffaad, gan ddywedyd, Byddant wragedd i'r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd.