21 Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig, Rhodded yr Arglwydd dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl, pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd yn bwdr, a'th groth yn chwyddedig;
22 Ac aed y dwfr melltigedig hwn i'th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.
23 Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â'r dwfr chwerw.
24 A phared i'r wraig yfed o'r dwfr chwerw sydd yn peri'r felltith: ac aed y dwfr sydd yn peri'r felltith i'w mewn hi, yn chwerw.
25 A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ef ar yr allor.
26 A chymered yr offeiriad o'r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i'r wraig yfed y dwfr.
27 Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr, yr â'r dwfr sydd yn peri'r felltith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a'r wraig a fydd yn felltith ymysg ei phobl.