1 Ac ar y dydd y gorffennodd Moses godi'r tabernacl, a'i eneinio a'i sancteiddio ef, a'i holl ddodrefn, yr allor hefyd a'i holl ddodrefn, a'u heneinio a'u sancteiddio hwynt;
2 Yr offrymodd tywysogion Israel, penaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:)
3 A'u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychen; men dros bob dau dywysog, ac ych dros bob un: a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt.
4 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
5 Cymer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod; a dod hwynt i'r Lefiaid, i bob un yn ôl ei wasanaeth.
6 A chymerodd Moses y menni, a'r ychen, ac a'u rhoddodd hwynt i'r Lefiaid.
7 Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt;