12 Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Jwda.
13 A'i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
14 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
15 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
16 Un bwch geifr yn bech‐aberth:
17 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.
18 Ac ar yr ail ddydd yr offrymodd Nethaneel mab Suar, tywysog Issachar.