19 Efe a offrymodd ei offrwm, sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
20 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
21 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
22 Un bwch geifr yn bech‐aberth:
23 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Nethaneel mab Suar.
24 Ar y trydydd dydd yr offrymodd Elïab mab Helon, tywysog meibion Sabulon.
25 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: