3 A'u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychen; men dros bob dau dywysog, ac ych dros bob un: a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt.
4 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
5 Cymer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod; a dod hwynt i'r Lefiaid, i bob un yn ôl ei wasanaeth.
6 A chymerodd Moses y menni, a'r ychen, ac a'u rhoddodd hwynt i'r Lefiaid.
7 Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt;
8 A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
9 Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.