39 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
40 Un bwch geifr yn bech‐aberth:
41 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Selumiel mab Surisadai.
42 Ar y chweched dydd yr offrymodd Eliasaff mab Deuel, tywysog meibion Gad.
43 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
44 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
45 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: