60 Ar y nawfed dydd yr offrymodd Abidan mab Gideoni, tywysog meibion Benjamin.
61 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
62 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
63 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
64 Un bwch geifr yn bech‐aberth:
65 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Abidan mab Gideoni.
66 Ar y degfed dydd yr offrymodd Ahieser mab Ammisadai, tywysog meibion Dan.