68 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
69 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
70 Un bwch geifr yn bech‐aberth:
71 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai.
72 Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran, tywysog meibion Aser.
73 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
74 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: