7 Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt;
8 A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
9 Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.
10 A'r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru'r allor, ar y dydd yr eneiniwyd hi; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion.
11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant eu hoffrymau, tuag at gysegru'r allor.
12 Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Jwda.
13 A'i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: