86 Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl‐darth, o ddeg sicl bob llwy, yn ôl y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl.
87 Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod, deuddeg o ŵyn blwyddiaid, a'u blwyddiaid a deuddeg o fychod geifr, yn offrwm dros bechod.
88 A holl ychen yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych, trigain o hyrddod, trigain o fychod, trigain o hesbyrniaid. Dyma gysegriad yr allor wedi ei heneinio.
89 Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y dystiolaeth, oddi rhwng y ddau geriwb, ac efe a ddywedodd wrtho.