17 Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bobcyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun.
18 A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel.
19 A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i'w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr.
20 A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i'r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.
21 A'r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a'u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i'w glanhau hwynt.
22 Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a'i feibion; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.
23 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,