22 Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a'i feibion; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.
23 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
24 Dyma'r hyn a berthyn i'r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod.
25 Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy.
26 Ond gwasanaethed gyda'i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i'r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.