7 Ac fel hyn y gwnei iddynt i'w glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnânt i'r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.
8 Yna cymerant fustach ieuanc a'i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod.
9 A phâr i'r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd.
10 A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid.
11 Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd.
12 A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a'r llall yn offrwm poeth i'r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid.
13 A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i'r Arglwydd.