1 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd,
2 Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor.
3 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau, y cedwch ef.
4 A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg.