2 Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor.
3 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau, y cedwch ef.
4 A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg.
5 A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
6 Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron, ar y dydd hwnnw.
7 A'r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: paham y'n gwaherddir rhag offrymu offrwm i'r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel?
8 A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno'r Arglwydd o'ch plegid.