8 A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno'r Arglwydd o'ch plegid.
9 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
10 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o'ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i'r Arglwydd.
11 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis. yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef.
12 Na weddillant ddim ohono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef.
13 A'r gŵr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw.
14 A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasg a'i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i'r dieithr ac i'r un fydd â'i enedigaeth o'r wlad.