12 Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear.Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb,a lledu'r awyr trwy ei ddeall.
13 Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu.Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel.Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw.Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.
14 Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd!Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'i gwnaeth nhw.Duwiau ffals ydy'r delwau;does dim bywyd ynddyn nhw.
15 Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw!Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio.
16 Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw.Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth,ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo.Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw!
17 Mae'r gelyn o'ch cwmpas yn gwarchae,felly heliwch eich pac yn barod i fynd!
18 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:Dw i'n mynd i daflu'r bobl allan o'r wlad yma, nawr!Maen nhw'n mynd i fod mewn helbul go iawn,a byddan nhw'n teimlo'r peth i'r byw.