1 “Mae pechod pobl Jwda wedi ei gerfiogyda chun haearn ar lech eu calonnau.Mae fel arysgrif wedi ei grafugyda diemwnt ar y cyrn ar gorneli'r allorau.
2 Dydy'r plant yn gwybod am ddim bydond am allorau paganaidd a pholion y dduwies Ashera!Maen nhw wedi eu gosod wrth ymylpob coeden ddeiliog ar ben bob bryn,
3 ar y mynyddoedd ac yn y caeau.Bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorauyn ysbail i'ch gelynion.Dyma'r pris fyddwch chi'n ei daluam yr holl bechu drwy'r wlad.
4 Byddwch chi'n colli gafael yn y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi.Byddwch yn gwasanaethu eich gelynionmewn gwlad ddieithr.Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”
5 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Melltith ar y rhai sy'n trystio pobl feidrola chryfder dynol,a'r galon wedi troi cefn arna i.
6 Byddan nhw'n sych fel prysglwyn ar dir anial,heb ddim gobaith i'r dyfodol.Byddan nhw'n aros yn yr anialwch poeth,mewn tir diffaith lle does neb yn gallu byw.
7 Ond mae yna fendith fawr i'r rhai sy'n fy nhrystio iac yn rhoi eu hyder ynof fi.
8 Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi ei phlannu ar lan afon,a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr.Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi;mae ei dail yn aros yn wyrdd.A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder;bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.
9 Oes rhywun yn deall y galon ddynol?Mae'n fwy twyllodrus na dim,a does dim gwella arni.
10 Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl.Dw i'n rhoi i bawb beth mae'n nhw'n ei haedduam y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.
11 Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyllfel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'i dodwy.Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl,ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.”
12 “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wychsy'n uchel o'r dechrau cyntaf:ti ydy'r lle saff i ni droi!
13 ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel,a bydd pawb sy'n troi cefn arnat tiyn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n cael eu cofrestru ym myd y meirwam iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD,y ffynnon o ddŵr glân croyw.”
14 “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu fy iacháu;dim ond ti sy'n gallu fy achub.Ti ydy'r un dw i'n ei foli!
15 Gwrando beth maen nhw'n ddweud wrtho i!‘Beth am y neges yma gest ti gan yr ARGLWYDD?Tyrd! Gad i ni ei weld yn digwydd!’
16 Gwnes i dy annog i atal y dinistr.Doedd gen i ddim eisiau gweldy diwrnod o drwbwl di-droi-nôl yn cyrraedd.Ti'n gwybod yn iawn beth ddywedais i.Roedd y cwbl yn agored o dy flaen di.
17 Paid dychryn fi;ti ydy'r lle saff i mi guddio pan mae pethau'n ddrwg arna i.
18 Gwna i'r rhai sy'n fy erlid i gywilyddio;paid codi cywilydd arna i.Gad iddyn nhw gael eu siomi;paid siomi fi.Tyrd â'r dyddiau drwg arnyn nhw,a dinistria nhw'n llwyr!”
19 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i sefyll wrth Giât y Bobl ble mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan o'r ddinas. Yna dos at giatiau eraill y ddinas.
20 Dywed wrth y bobl yno: ‘Frenhinoedd Jwda, pobl Jwda, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem; pawb sy'n dod trwy'r giatiau yma, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.
21 Gwyliwch am eich bywydau eich bod chi ddim yn cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth.
22 Peidiwch cario dim allan o'ch tai chwaith, a mynd i weithio ar y Saboth. Dw i eisiau i'r Saboth fod yn ddiwrnod sbesial, fel y dwedais i wrth eich hynafiaid.
23 Ond wnaethon nhw ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod dysgu gwers.’
24 “‘Ond os gwnewch chi wrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘(peidio cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar Saboth, cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, a pheidio gweithio ar y diwrnod hwnnw),
25 bydd brenhinoedd, disgynyddion Dafydd, yn dal i ddod drwy'r giatiau yma yn eu cerbydau ac ar geffylau. Bydd eu swyddogion yn dod gyda nhw, a phobl Jwda a Jerwsalem hefyd. Bydd pobl yn byw yn y ddinas yma am byth.
26 Bydd pobl yn dod yma o drefi Jwda a'r ardal o gwmpas Jerwsalem, o dir llwyth Benjamin, o'r iseldir yn y gorllewin, o'r bryniau ac o'r Negef yn y de. Byddan nhw'n dod i deml yr ARGLWYDD gydag offrymau i'w llosgi ac aberthau, offrymau o rawn ac arogldarth, ac offrymau diolch.
27 Ond rhaid i chi wrando arna i, a chadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, a pheidio cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth. Os wnewch chi ddim gwrando bydda i'n rhoi giatiau Jerwsalem ar dân. Fydd y tân ddim yn diffodd, a bydd plastai Jerwsalem i gyd yn cael eu llosgi'n ulw.’”