Jeremeia 4 BNET

Galwad i droi'n ôl

1 “Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai'r ARGLWYDD“Ie, troi yn ôl!Cael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd yna o'm golwg ia stopio crwydro o hyn ymlaen.

2 Dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw,‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo eu bendithio nhw,a byddan nhw'n ymffrostio ynddo.”

3 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi bobl Jwda a Jerwsalem:“Rhaid i chi drin y tir caled,a peidio hau had da yng nghanol drain.

4 Rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD,newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr.Os na wnewch chi, bydda i'n ddig.Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”

Y gelyn o'r gogledd yn bygwth Jwda

5 “Cyhoeddwch hyn yn Jwda,a dweud wrth bawb yn Jerwsalem:‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’Gwaeddwch yn uchel,‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’

6 Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian!Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd –trychineb ofnadwy!

7 Mae llew wedi dod allan o'i ffau!Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd.Mae'n dod i ddifetha'r wlad,a gwneud ei threfi yn adfeilion lle bydd neb yn byw.

8 Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo:‘Mae'r ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’”

9 “Y diwrnod hwnnw,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder. Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.”

10 Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!”

11 Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e.

12 Na, bydd yn wynt llawer rhy gryf i hynny! Dw i fy hun yn mynd i'w barnu nhw.”

Y gelyn o gwmpas Jerwsalem

13 Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu.Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt,a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod.“Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl.

14 O, Jerwsalem, golcha'r drwg o dy galoni ti gael dy achub.Am faint wyt ti'n mynd i ddal gafaelyn dy syniadau dinistriol?

15 Mae negeswyr yn dod i gyhoeddi dinistr,o dref Dan ac o fryniau Effraim.

16 Cyhoeddwch i'r gwledydd o'i chwmpas, “Maen nhw yma!”a dwedwch wrth Jerwsalem,“Mae'r rhai sy'n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell,ac yn bloeddio, ‘I'r gâd!’ yn erbyn trefi Jwda.”

17 Maen nhw'n cau amdani o bob cyfeiriad,fel gwylwyr yn gofalu am gae.“Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,”meddai'r ARGLWYDD.

18 Ti wedi dod â hyn arnat dy hun,am y ffordd rwyt wedi byw a'r pethau rwyt wedi eu gwneud.Bydd dy gosb yn brofiad chwerw!Bydd fel cleddyf yn treiddio i'r byw!

Jeremeia'n torri ei galon dros ei bobl

19 O'r poen dw i'n ei deimlo!Mae fel gwayw yn fy mol,ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt.Alla i ddim cadw'n dawelwrth glywed y corn hwrdd yn seinioa'r milwyr yn gweiddi “I'r gâd!”

20 Mae un dinistr yn dod ar ôl y llall,nes bod y wlad i gyd wedi ei difetha.Yn sydyn mae pob pabell wedi ei dinistrio,a'u llenni wedi eu rhwygo mewn chwinciad.

21 Am faint mae'n rhaid edrych ar faneri'r gelyn?Am faint rhaid i'r rhyfela fynd ymlaen?

22 “Mae fy mhobl yn ffyliaid.Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn.Maen nhw fel plant heb ddim sens.Dŷn nhw'n deall dim byd!Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg,ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.”

Gweledigaeth Jeremeia o'r dinistr i ddod

23 Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag.Edrychais i'r awyr, a doedd dim golau!

24 Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw'n crynu!Roedd y bryniau i gyd yn gwegian.

25 Edrychais eto – doedd dim pobl yn unman,ac roedd yr adar i gyd wedi hedfan i ffwrdd.

26 Edrychais, ac roedd y tir amaeth wedi troi'n anialwch,a'r trefi i gyd yn adfeilion.Yr ARGLWYDD oedd wedi achosi'r cwbl,am ei fod wedi digio'n lân hefo ni.

27 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd y tir i gyd yn destun siocond fydda i ddim yn ei ddinistrio'n llwyr.

28 Bydd y ddaear yn galaru,a'r awyr wedi tywyllu.Dw i wedi dweud yn glir beth dw i am ei wneud,a dw i ddim yn bwriadu newid fy meddwl.”

29 Mae sŵn y marchogion a'r bwasaethwyr yn dod,ac mae pawb yn ffoi o'r trefi.Maen nhw'n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo'r clogwyni.Mae'r trefi'n wag – does neb ar ôl ynddyn nhw!

30 A tithau'r ddinas sy'n mynd i gael dy ddinistrio –Beth wyt ti'n wneud yn dy ddillad gorau?Pam wyt ti'n addurno dy hun hefo dy dlysau?Pam wyt ti'n rhoi colur ar dy lygaid?Does dim pwynt i ti wisgo colur.Mae dy ‛gariadon‛ wedi dy wrthod;maen nhw eisiau dy ladd di!

31 I ddweud y gwir, dw i wedi clywed sŵn crïo.Sŵn gwraig ifanc mewn poen wrth gael ei babi cyntaf.Sŵn Seion yn anadlu'n drwm, ac yn pledio am help:“Mae ar ben arna i!Mae'r llofruddion yma wedi cael y gorau arna i.”