Jeremeia 14 BNET

1 Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y sychder:

Y sychder mawr

2 “Mae pobl Jwda yn galaru.Mae'r busnesau yn y trefi yn methu.Mae pobl yn gorwedd ar lawr mewn anobaith.Mae Jerwsalem yn gweiddi am help.

3 Mae'r meistri yn anfon eu gweision i nôl dŵr;mae'r rheiny'n cyrraedd y pydewaua'u cael yn hollol sych.Maen nhw'n mynd yn ôl gyda llestri gwag,yn siomedig ac yn ddigalon.Maen nhw'n mynd yn ôlyn cuddio'u pennau mewn cywilydd.

4 Mae'r tir wedi sychu a chracioam nad ydy hi wedi glawio.Mae'r gweision fferm yn ddigalon,ac yn cuddio'u pennau mewn cywilydd.

5 Mae hyd yn oed yr ewig yn troi cefnar y carw bach sydd newydd ei eni,am fod dim glaswellt ar ôl.

6 Mae'r asynnod gwyllt ar y bryniau moelyn nadu fel siacaliaid.Mae eu llygaid yn pyluam fod dim porfa yn unman.”

7 “O ARGLWYDD,er bod ein pechodau yn tystio yn ein herbyn,gwna rywbeth i'n helpu nier mwyn dy enw da.Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti lawer gwaith,ac wedi pechu yn dy erbyn di.

8 Ti ydy unig obaith Israel –ein hachubwr pan oedden ni mewn trwbwl.Pam wyt ti fel estron yn y wlad?Pam wyt ti fel teithiwr sydd ond yn aros am noson?

9 Pam ddylet ti ymddangos fel rhywun gwan,neu arwr sydd ddim yn gallu achub ddim mwy?Ond rwyt ti gyda ni, ARGLWYDD.Dŷn ni'n cael ein nabod fel dy bobl di.Paid troi dy gefn arnon ni!”

10 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am ei bobl:“Maen nhw wrth eu bodd yn mynd i grwydro.Maen nhw'n mynd ble bynnag maen nhw eisiau.Felly dw i ddim yn eu derbyn nhw fel fy mhobl ddim mwy.Bydda i'n cofio'r pethau drwg maen nhw wedi ei wneudac yn eu cosbi nhw am eu pechodau.”

11 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Paid gweddïo dros y bobl yma.

12 Hyd yn oed os byddan nhw'n ymprydio, fydda i'n cymryd dim sylw. Ac os byddan nhw'n offrymu aberth llosg ac offrwm o rawn, fydda i ddim yn eu derbyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw â rhyfel, newyn a haint.”

13 A dyma fi'n dweud, “Ond Meistr, ARGLWYDD, mae'r proffwydi yn dweud wrthyn nhw, ‘Bydd popeth yn iawn! Fydd dim rhyfel na newyn, dim ond heddwch a llwyddiant.’”

14 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r proffwydi'n dweud celwydd. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i, ond wnes i ddim eu hanfon nhw. Wnes i ddim eu penodi nhw na rhoi neges iddyn nhw. Maen nhw'n proffwydo gweledigaethau ffals ac yn darogan pethau diwerth. Maen nhw'n twyllo eu hunain.

15 “Felly dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am y proffwydi sy'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i ac yn dweud fod dim rhyfel na newyn yn mynd i fod: ‘Rhyfel a newyn fydd yn lladd y proffwydi hynny.’

16 A bydd y bobl maen nhw'n proffwydo iddyn nhw hefyd yn marw o ganlyniad i ryfel a newyn. Bydd eu cyrff yn cael eu taflu allan ar strydoedd Jerwsalem, a fydd neb yno i'w claddu nhw na'u gwragedd na'u plant. Bydda i'n tywallt arnyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni.

17 Dywed fel hyn wrthyn nhw, Jeremeia:‘Dw i'n colli dagrau nos a dydd;alla i ddim stopio crïo dros fy mhobl druan.Mae'r wyryf annwyl wedi cael ergyd farwol.Mae hi wedi cael ei hanafu'n ddifrifol.

18 Pan dw i'n mynd allan i gefn gwlad,dw i'n gweld y rhai sydd wedi cael eu lladd gyda'r cleddyf.Pan dw i'n cerdded drwy'r ddinas,dw i'n gweld canlyniadau erchyll y newyn.Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn mynd ymlaen â'i busnes;dŷn nhw ddim yn deall beth sy'n digwydd.’”

19 “ARGLWYDD, wyt ti wir wedi gwrthod Jwda?Wyt ti'n casáu Seion bellach?Pam wyt ti wedi'n taro ni mor galednes bod dim gobaith i ni wella?Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn,ond i ddim pwrpas;roedden ni'n edrych am amser gwell,ond dim ond dychryn gawson ni.

20 ARGLWYDD, dŷn ni'n cyfadde'n drygioni,a bod ein hynafiaid wedi gwneud drwg hefyd.Dŷn ni wedi pechu go iawn yn dy erbyn di.

21 ARGLWYDD, er mwyn dy enw da, paid â'n gwrthod ni.Paid dirmygu'r lle ble mae dy orsedd wych di.Cofia'r ymrwymiad wnest ti hefo ni. Paid â'i dorri!

22 Oes un o eilunod diwerth y cenhedloedd yn gallu anfon glaw?Neu ydy glaw yn dod o'r awyr ohono'i hun?Wrth gwrs ddim!Ti, ARGLWYDD Dduw, sy'n gwneud y cwbl,A dyna pam mai ti ydy'n gobaith ni.”