Jeremeia 2 BNET

Duw yn pledio ar Jwda i newid ei ffyrdd

1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi:

2 “Dos, a gwna'n siŵr fod pobl Jerwsalem yn clywed y neges yma:Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Dw i'n cofio mor awyddus oeddet ti i'm plesio i,a'r cariad roeddet ti'n ei ddangos,fel merch ifanc ar fin priodi.Dyma ti'n fy nilyn i drwy'r anialwchmewn tir oedd heb ei drin.

3 Roedd Israel wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD,fel ffrwyth cyntaf ei gynhaeaf.Roedd pawb oedd yn ei chyffwrddyn cael eu cyfri'n euog,a byddai dinistr yn dod arnyn nhw.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Pechod yr hynafiaid

4 Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD bobl Jacob – llwythau Israel i gyd.

5 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Pa fai gafodd eich hynafiaid yno ieu bod wedi crwydro mor bell oddi wrtho i?Dilyn delwau diwerth,a gwneud eu hunain yn dda i ddim.

6 Wnaethon nhw ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDDddaeth â ni allan o wlad yr Aifft,a'n harwain ni drwy'r anialwch? –ein harwain trwy dir diffaithoedd yn llawn tyllau; tir sych a thywyll;tir does neb yn mynd trwyddo,a lle does neb yn byw.’

7 Des i a chi i dir ffrwythlona gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da.Ond pan aethoch i mewn ynodyma chi'n llygru'r tir,a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chiyn ffiaidd yn fy ngolwg i.

8 Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDD?’Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraithddim yn fy nabod i.Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn,a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal,ac yn dilyn delwau diwerth.

Achos Duw yn erbyn ei bobl

9 Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi,a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion hefyd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

10 “Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld;neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio.Ydy'r fath beth wedi digwydd erioed o'r blaen?

11 Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau?(A dydy'r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!)Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych,am ‛dduwiau‛ sydd ond delwau diwerth.

12 Mae'r nefoedd mewn siocfod y fath beth yn gallu digwydd!Mae'n ddychryn! Mae'r peth yn syfrdanol!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

13 “Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg:Maen nhw wedi troi cefn arna i,y ffynnon o ddŵr glân gloyw,a chloddio pydewau iddyn nhw eu hunain –pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”

Canlyniadau troi cefn ar Dduw

14 “Ydy Israel yn gaethwas? Na!Gafodd e ei eni'n gaethwas? Naddo!Felly, pam mae e'n cael ei gipio gan y gelyn?

15 Mae'r gelyn yn rhuo drostofel llewod ifanc yn rhuo'n swnllyd.Mae'r wlad wedi ei difetha,a'i threfi'n adfeilionheb neb yn byw yno bellach.

16 A daw milwyr yr Aifft, o drefi Memffis a Tachpanchesi siafio'ch pennau chi, bobl Israel.

17 Ti Israel ddaeth â hyn arnat dy hun,trwy droi dy gefn ar yr ARGLWYDD dy Dduwpan oedd e'n dangos y ffordd i ti.

18 Felly beth ydy'r pwynt mynd i lawr i'r Aifftneu droi at Asyria am help?Ydy yfed dŵr yr Afon Nil neu'r Ewffratesyn mynd i dy helpu di?

19 Bydd dy ddrygioni'n dod â'i gosb,a'r ffaith i ti droi cefn arna iyn dysgu gwers i ti.Cei weld fod troi cefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw,a dangos dim parch tuag ata i,yn ddrwg iawn ac yn gwneud niwed mawr,”—meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.

Pobl Dduw yn addoli Baal

20 “Ymhell bell yn ôl torrais yr iau oedd ar dy wara dryllio'r rhaffau oedd yn dy rwymo;ond dyma ti'n dweud, ‘Wna i ddim dy wasanaethu di!’Felly addolaist dy ‛dduwiau‛ ar ben pob bryna than pob coeden ddeiliog,a gorweddian ar led fel putain.

21 Roeddwn i wedi dy blannu di yn y tirfel gwinwydden arbennig o'r math gorau.Sut wnest ti droi'n winwydden wyllta'i ffrwyth yn ddrwg a drewllyd?

22 Gelli drïo defnyddio powdr golchia llwythi o sebon i geisio ymolchi,ond dw i'n dal i weld staen dy euogrwydd di.”—Y Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

23 “Sut elli di ddweud, ‘Dw i ddim yn aflan.Wnes i ddim addoli duwiau Baal’?Meddylia beth wnest ti yn y dyffryn!Rwyt fel camel ifanc yn rhuthro i bob cyfeiriada ddim yn gwybod ble i droi!

24 Rwyt fel asen wyllt wedi ei magu yn yr anialwchyn sniffian yr awyr am gymar pan mae'n amser paru.Does dim modd ei dal hi'n ôl pan mae'r nwyd yna.Does dim rhaid i'r asynnod flino yn rhedeg ar ei hôl,mae hi yna'n disgwyl amdanyn nhw adeg paru.

25 Paid gadael i dy esgidiau dreulioa dy wddf sychu yn rhedeg ar ôl duwiau eraill.Ond meddet ti, ‘Na! Does dim pwynt!Dw i'n caru'r duwiau eraill yna,a dw i am fynd ar eu holau nhw eto.’

Cywilydd ar bobl Israel

26 Fel lleidr, dydy Israel ond yn teimlo cywilyddpan mae wedi cael ei dal!Brenhinoedd a swyddogion, offeiriaid a phroffwydi– maen nhw i gyd yr un fath.

27 Maen nhw'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Ti ydy fy nhad i!’ac wrth garreg, ‘Ti ydy fy mam, ddaeth â fi i'r byd!’Ydyn, maen nhw wedi troi cefn arna iyn lle troi ata i.Ond wedyn, pan maen nhw mewn trafferthionmaen nhw'n gweiddi arna i, ‘Tyrd, achub ni!’

28 Felly ble mae'r duwiau wyt ti wedi eu gwneud i ti dy hun?Gad iddyn nhw ddod i dy achub di, os gallan nhw,pan wyt ti mewn trafferthion!Wedi'r cwbl, Jwda, mae gen ti gymaint o dduwiauag sydd gen ti o drefi!

29 Pam ydych chi'n rhoi'r bai arna i?Chi ydy'r rhai sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

30 “Dyma fi'n cosbi dy bobl, ond doedd dim pwynt;doedden nhw ddim yn fodlon cael eu cywiro.Chi eich hunain laddodd eich proffwydifel llew ffyrnig yn ymosod ar ei brae.”

31 Bobl, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud!“Ydw i wedi bod fel anialwch i Israel?Ydw i wedi bod fel tir tywyll i chi?Felly pam mae fy mhobl yn dweud,‘Dŷn ni'n rhydd i wneud beth leiciwn niDŷn ni ddim am droi atat byth eto’?

32 Ydy merch ifanc yn anghofio gwisgo ei thlysau?Ydy priodferch yn anghofio ei gwisg briodas?Na! – Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio iers gormod o flynyddoedd i'w cyfri.

33 Ti'n un da iawnam redeg ar ôl dy gariadon.Byddai'r butain fwya profiadolyn dysgu lot fawr gen ti!

34 Ar ben hynny mae olion gwaedy tlawd a'r diniwed ar eich dillad,er eich bod chi ddim wedi eu dal nhwyn torri i mewn i'ch tai.Ac eto, er gwaetha'r cwbl

35 ti'n dal i ddweud,‘Dw i wedi gwneud dim byd o'i le;does bosib ei fod e'n dal yn ddig hefo fi!’Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i dy farnu diam ddweud, ‘Dw i ddim wedi pechu.’

36 Pam wyt ti'n ei chael hi mor hawdd i newid ochr?Gofyn am help un, ac wedyn y llall!Byddi di'n cael dy siomi gan yr Aifftyn union fel y cest ti dy siomi gan Asyria.

37 Byddi'n dod allan o'r sefyllfa ymahefo dy ddwylo dros dy wyneb mewn cywilydd.Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y rhai rwyt ti'n pwyso arnyn nhw;fyddi di ddim yn llwyddo gyda'i help nhw.