1 Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia:
2 “Atgoffa bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem o amodau yr ymrwymiad wnes i gydag Israel.
3 Dywed wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n diystyru amodau'r ymrwymiad.
4 Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, dwedais wrthyn nhw, “Rhaid i chi wrando arna i a chadw'r amodau dw i'n eu gosod. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.”
5 Wedyn roeddwn i'n gallu rhoi beth wnes i addo iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. A dyna'r wlad ble dych chi'n byw heddiw.’” A dyma fi'n ateb, “Amen! Mae'n wir ARGLWYDD!”
6 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Cyhoedda'r neges yma yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem: ‘Gwrandwch ar amodau yr ymrwymiad rhyngon ni, a'u cadw nhw.
7 Roeddwn i wedi rhybuddio'ch hynafiaid chi pan ddes i â nhw allan o'r Aifft. A dw i wedi dal ati i wneud hynny hyd heddiw, i'ch cael chi i wrando arna i.
8 Ond doedd neb am wneud beth roeddwn i'n ddweud na cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n ystyfnig, ac yn dal ati i ddilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg. Felly, dw i wedi eu cosbi nhw, yn union fel roedd amodau'r ymrwymiad yn dweud – am wrthod gwneud beth roeddwn i'n ddweud.’”
9 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn fy erbyn i.
10 Maen nhw wedi mynd yn ôl a gwneud yr union bethau drwg roedd eu hynafiaid yn eu gwneud. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, ac wedi addoli duwiau eraill. Mae gwlad Israel a gwlad Jwda wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw.
11 Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw'n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw.
12 Wedyn bydd pobl trefi Jwda a phobl Jerwsalem yn gweiddi am help gan y duwiau maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iddyn nhw. Ond fydd y duwiau hynny yn sicr ddim yn gallu eu hachub nhw o'u trafferthion!
13 A hynny er bod gen ti, Jwda, gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Ac er bod gan bobl Jerwsalem gymaint o allorau ag sydd o strydoedd yn y ddinas, i losgi arogldarth i'r duw ffiaidd yna, Baal!’
14 “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n gweiddi am help o ganol eu trafferthion.
15 Pa hawl sydd gan fy mhobl annwyl i ddod i'm temlar ôl gwneud cymaint o bethau erchyll?Ydy aberthu cig anifeiliaid yn mynd i gael gwared â'r drygioni?Fyddwch chi'n gallu bod yn hapus wedyn?
16 Roeddwn i, yr ARGLWYDD, wedi dy alw diyn goeden olewydd ddeiliog gyda ffrwyth hyfryd arni.Ond mae storm fawr ar y ffordd:dw i'n mynd i dy roi di ar dân,a byddi'n llosgi yn y fflamau gwyllt.Fydd dy ganghennau di yn dda i ddim wedyn.
17 Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, wnaeth dy blannu di yn y wlad, wedi cyhoeddi fod dinistr yn dod arnat ti. Mae'n dod am fod gwledydd Israel a Jwda wedi gwneud drwg, a'm gwylltio i drwy losgi arogldarth i Baal.”
18 Dangosodd yr ARGLWYDD – ron i'n gwybod wedyn;dangosodd beth roedden nhw'n bwriadu ei wneud.
19 Ro'n i fel oen bach diniwed yn cael ei arwain i'r lladd-dy;ddim yn sylweddoli mai yn fy erbyn roedd eu cynllwyn,“Rhaid i ni ddinistrio'r goeden a'i ffrwyth!Gadewch i ni ei ladd, a'i dorri o dir y byw,a bydd pawb yn anghofio amdano.”
20 “O ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti'n barnu'n deg!Ti'n gweld beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu.Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud.Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.”
21 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y dynion o Anathoth sydd eisiau fy lladd i. (Roedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n fy lladd i os nad oeddwn i'n stopio proffwydo fel roedd yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i).
22 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud amdanyn nhw: “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw! Bydd eu bechgyn ifanc yn cael eu lladd yn y rhyfel, a bydd eu plant yn marw o newyn.
23 Fydd yna neb ar ôl yn fyw! Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”