1 Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna).
2 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y brenin Jehoiacim.
3 Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw.Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon.
4 A dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis yn nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.
5 Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin.)
6 Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta.
7 Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.)
8 Ond aeth byddin Babilon ar ôl y brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma ei fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl.
9 Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla yn ardal Chamath.
10 Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. Cafodd swyddogion Jwda i gyd eu lladd ganddo yn Ribla hefyd.
11 Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Yn Babilon cafodd Sedeceia ei roi yn y carchar, a dyna lle bu nes iddo farw.
12 Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.)
13 Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd.
14 Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda'r capten yn bwrw i lawr y waliau o gwmpas Jerwsalem.
15 A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl dlawd a phawb oedd wedi eu gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon.
16 Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a tir iddyn nhw edrych ar ei ôl.
17 Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw “Y Môr”. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon.
18 Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y dysglau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad.
19 Cymerodd capten y gwarchodlu bopeth oedd wedi ei wneud o aur neu arian – y powlenni bach, y padellau, y dysglau, bwcedi lludw, y lampau ar stand, y padellau a phowlenni'r offrwm o ddiod.
20 Roedd cymaint o bres yn yr offer oedd y Brenin Solomon wedi eu gwneud ar gyfer y deml – pres y ddau biler, y ddysgl bres fawr sy'n cael ei galw “Y Môr”, y deuddeg tarw pres oedd dan y Môr, a'r trolïau pres – roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso.
21 Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, pum metr a hanner o gylchedd, yn wag y tu mewn, ac wedi eu gwneud o fetel oedd tua 75 milimetr o drwch.
22 Ar dop y pileri roedd capan pres oedd tua dau fetr o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi ei wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.
23 Roedd naw deg chwech o bomgranadau ar yr ochrau, a chyfanswm o gant o gwmpas y rhwyllwaith ar y top.
24 Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai carcharorion hefyd. Cymerodd Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml.
25 Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, saith o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, ac un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas.
26 A dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodwyr, yn mynd â nhw at frenin Babilon i Ribla,
27 a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.
28 Dyma nifer y bobl gafodd eu caethgludo gan Nebwchadnesar: Yn ei seithfed flwyddyn fel brenin, 3,023 o bobl Jwda.
29 Ym mlwyddyn un deg wyth o'i deyrnasiad, 832 o bobl.
30 Yna ym mlwyddyn dau ddeg tri o'i deyrnasiad, cymerodd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, 745 o Iddewon yn gaethion. Cafodd 4,600 o bobl eu caethgludo i gyd.
31 Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y pumed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o'r carchar.
32 Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon.
33 Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon,
34 ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.