Jeremeia 18 BNET

Y Crochenydd a'r clai

1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i Jeremeia:

2 “Dos i lawr i weithdy'r crochenydd, a bydda i'n siarad gyda ti yno.”

3 Felly dyma fi'n mynd i lawr i'r crochendy, a dyna ble roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell.

4 Pan oedd rhywbeth o'i le ar y potyn roedd yn ei wneud o'r clai, byddai'n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn.

5 A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi:

6 “Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae'r clai yn nwylo'r crochenydd.

7 Galla i ddweud un funud fy mod i'n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig.

8 Ond os ydy pobl y wlad dw i'n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud.

9 Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog.

10 Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.

11 “Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’

12 “Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’”

Y bobl yn gwrthod yr ARGLWYDD

13 Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gofyn i bobl y gwledydd eraillos ydyn nhw wedi clywed am y fath beth!Mae Jerwsalem, dinas lân Israel,wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!

14 Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus?Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.

15 Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i.Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth!Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdda mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.

16 O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad.Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod.Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychrynac yn ysgwyd eu pennau'n syn.

17 Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl,fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain.Bydda i'n troi cefn arnyn nhwyn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.”

Cynllwyn i ymosod ar Jeremeia

18 A dyma'r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd yn dal gynnon ni offeiriaid i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.”

19 “ARGLWYDD, wnei di ymateb plîs?Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud.

20 Ydy'n iawn i dalu drwg am dda?Maen nhw wedi cloddio twll i mi.Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn i'npledio ar eu rhan nhw o dy flaen di?Roeddwn i'n ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw.

21 Felly gad i'w plant nhw lwgu!Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel!Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant.Gad i'r dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau,a'r bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel.

22 Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y taiwrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhw'n ddirybudd.Maen nhw wedi cloddio twll i mia gosod trapiau i geisio fy nal.

23 ARGLWYDD, rwyt ti'n gwybodeu bod nhw'n bwriadu fy lladd i.Paid maddau iddyn nhw eto.Paid cuddio eu pechodau nhw o dy olwg.Gad iddyn nhw faglu o dy flaen.Delia gyda nhw yn dy ddig.”