Jeremeia 33 BNET

Addewid arall fod gobaith i Israel a Jwda

1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia yr ail waith (Roedd yn dal yn gaeth yn iard y gwarchodlu ar y pryd):

2 “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud hyn. Dw i'n cyflawni beth dw i'n ei fwriadu. Yr ARGLWYDD ydy fy enw i.

3 Galwa arna i, a bydda i'n ateb. Gwna i ddangos i ti bethau mawr cudd allet ti ddim eu gwybod ohonot dy hun.

4 “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae tai y ddinas yma a hyd yn oed y palasau brenhinol wedi eu chwalu i gael deunydd i amddiffyn rhag y rampiau gwarchae a'r ymosodiadau.

5 Dych chi'n bwriadu ymladd y Babiloniaid, ond bydd y tai yma yn cael eu llenwi hefo cyrff marw. Dw i'n mynd i daro pobl y ddinas yma yn ffyrnig. Dw i wedi troi cefn arnyn nhw am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.

6 “‘Ond bydda i yn iacháu'r ddinas yma eto. Dw i'n mynd i'w gwella nhw, a rhoi heddwch a'i cadw nhw'n saff am byth.

7 Bydda i'n rhoi popeth wnaeth Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i'w hadeiladu nhw eto, fel roedden nhw o'r blaen.

8 Dw i'n mynd i'w glanhau nhw o'u holl bechodau yn fy erbyn i. Bydda i'n maddau eu pechodau a'u gwrthryfel yn fy erbyn i.

9 Bydd y gwledydd i gyd yn clywed am y pethau da fydda i'n eu gwneud iddyn nhw. Bydd y ddinas yma yn fy ngwneud i'n enwog, ac yn dod ag anrhydedd a mawl i mi, am fy mod i wedi gwneud ei phobl hi mor llawen. Bydd y gwledydd wedi dychryn am fy mod i wedi gwneud cymaint o dda i'r ddinas ac wedi rhoi heddwch iddi.’”

10 “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dweud am y lle yma, “Mae'r wlad yma'n anialwch diffaith. Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma.” Gwir! Yn fuan iawn bydd pentrefi Jwda a strydoedd Jerwsalem yn wag – fydd neb yn byw yma, a fydd dim anifeiliaid yma chwaith. Ac eto bydd sŵn

11 pobl yn chwerthin ac yn joio a mwynhau eu hunain mewn parti priodas i'w glywed yma eto. A bydd sŵn pobl yn canu wrth fynd i'r deml i gyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD:“Diolchwch i'r ARGLWYDD holl-bwerus.Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”Dw i'n mynd i roi'r cwbl oedd gan y wlad ar y dechrau yn ôl iddi,’ meddai'r ARGLWYDD.

12 “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Mae'n wir – bydd y lle yma yn adfeilion, heb bobl nag anifeiliaid yn byw yma. Ond yna ryw ddydd bydd bugeiliaid unwaith eto yn arwain eu praidd i orffwys yma.

13 Bydd bugeiliaid yn cyfrif eu defaid wrth iddyn nhw fynd i'r gorlan yn y pentrefi i gyd, yn y bryniau a'r iseldir i'r gorllewin, yn y Negef i'r de, ar dir llwyth Benjamin, yn yr ardal o gwmpas Jerwsalem ac yn nhrefi Jwda i gyd. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn!

14 “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n gwneud beth dw i wedi addo ei wneud i bobl Israel a Jwda.

15 Bryd hynny,bydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.

16 Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub,a bydd Jerwsalem yn saff.Bydd e'n cael ei alw,“Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.”’

17 “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn eistedd ar orsedd Israel am byth.

18 A bydd yna bob amser offeiriaid o lwyth Lefi yn sefyll o'm blaen i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn, ac aberthau.’”

19 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:

20 “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Does neb yn gallu torri'r patrwm o nos a dydd yn dilyn ei gilydd mewn trefn.

21 A'r un fath, does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i Dafydd fy ngwas, sef y bydd un o'i ddisgynyddion yn frenin bob amser. A does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i lwyth Lefi chwaith.

22 Bydd cymaint o ddisgynyddion gan Dafydd fy ngwas, a'r rhai o lwyth Lefi sy'n fy ngwasanaethu i. Byddan nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr – yn gwbl amhosib i'w cyfri!’”

23 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:

24 “Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud – ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw'n genedl ddim mwy.

25 Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn addo hyn: Dw i wedi gosod trefn i reoli dydd a nos, ac wedi gosod deddfau i'r awyr a'r ddaear. Dydy'r pethau yna byth yn mynd i gael eu newid.

26 A'r un modd dw i ddim yn mynd i wrthod disgynyddion Jacob. Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu ar ddisgynyddion Abraham, Isaac a Jacob. Byddan nhw'n cael popeth maen nhw wedi ei golli yn ôl. Dw i'n mynd i ddangos trugaredd atyn nhw.”