Jeremeia 40 BNET

Jeremeia'n aros gyda Gedaleia

1 Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd ei ollwng yn rhydd gan Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol. Roedd yn Rama, wedi ei rwymo mewn cadwyni fel pawb arall o Jwda a Jerwsalem oedd yn cael eu cymryd yn gaeth i Babilon.

2 Yna dyma Nebwsaradan yn cymryd Jeremeia o'r neilltu a dweud wrtho, “Roedd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi bygwth dinistrio'r lle yma,

3 a dyna wnaeth e. Mae wedi gwneud beth ddwedodd am eich bod chi wedi pechu yn ei erbyn a gwrthod gwrando arno. Dyna pam mae hyn wedi digwydd i chi.

4 Nawr, dw i wedi tynnu dy gadwyni ac yn dy ollwng di'n rhydd. Os wyt ti eisiau dod hefo fi i Babilon, tyrd, a gwna i edrych ar dy ôl di. Ond does dim rhaid i ti ddod os wyt ti ddim eisiau. Ti'n rhydd i fynd i ble bynnag rwyt ti eisiau.

5 Os wyt ti am aros, dos yn ôl at Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) sydd wedi ei benodi gan frenin Babilon yn llywodraethwr dros drefi Jwda. Aros gydag e a'r bobl yno. Neu dos i ble bynnag arall rwyt ti eisiau.” Yna ar ôl rhoi bwyd ac arian i Jeremeia, dyma gapten y gwarchodlu brenhinol yn gadael iddo fynd.

6 A dyma Jeremeia yn mynd i Mitspa at Gedaleia fab Achicam. Arhosodd yno gyda'r bobl oedd wedi eu gadael ar ôl yn y wlad.

Gedaleia yn rheoli Jwda

7 Roedd rhai o swyddogion byddin Jwda a'u milwyr wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad. Dyma nhw'n clywed fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia fab Achicam i reoli'r wlad, a bod dynion, gwragedd a phlant mwya tlawd y wlad wedi eu gadael yno a heb eu cymryd yn gaeth i Babilon.

8 Felly dyma nhw'n mynd i gyfarfod Gedaleia yn Mitspa – Ishmael fab Nethaneia, Iochanan a Jonathan (meibion Careach), Seraia fab Tanchwmeth, meibion Effai o Netoffa, a Iesaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr.

9 A dyma Gedaleia yn addo iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn ildio i'r Babiloniaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.

10 Bydda i'n aros yn Mitspa ac yn eich cynrychioli pan fydd y Babiloniaid yn dod i'n cyfarfod ni. Ewch chi i gasglu'r cynhaeaf grawnwin, y ffigys aeddfed a'r olew, a'i storio mewn jariau. Cewch setlo i lawr yn y trefi dych chi wedi eu cipio.”

11 Roedd llawer o bobl Jwda wedi dianc yn ffoaduriaid i Moab, gwlad Ammon, Edom a gwledydd eraill, a dyma nhw'n clywed beth oedd wedi digwydd. Clywon nhw fod brenin Babilon wedi gadael i rai pobl aros yn Jwda, a'i fod wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad.

12 Felly dyma'r bobl hynny i gyd yn dod adre i wlad Jwda o'r gwledydd ble roedden nhw wedi bod yn ffoaduriaid, a mynd i Mitspa i gyfarfod Gedaleia. A dyma nhw hefyd yn casglu cynhaeaf enfawr o rawnwin a ffigys.

Llofruddio Gedaleia

13 Un diwrnod dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad yn mynd i Mitspa eto i gyfarfod Gedaleia.

14 A dyma nhw'n dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Baalis, brenin Ammon, wedi anfon Ishmael fab Nethaneia i dy lofruddio di?” Ond doedd Gedaleia ddim yn eu credu nhw.

15 Wedyn dyma Iochanan fab Careach yn cael gair preifat hefo Gedaleia ym Mitspa. “Gad i mi fynd i ladd Ishmael fab Nethaneia,” meddai. “Fydd neb yn gwybod am y peth. Rhaid i ni beidio gadael iddo dy lofruddio di, neu bydd pobl Jwda sydd wedi dy gefnogi di yn mynd ar chwâl, a bydd y rhai sydd ar ôl yn Jwda yn diflannu!”

16 Ond dyma Gedaleia yn ateb Iochanan, “Paid meiddio gwneud y fath beth! Dydy beth rwyt ti'n ddweud am Ishmael ddim yn wir.”