Jeremeia 20 BNET

Arestio a cham-drin Jeremeia

1 Clywodd Pashchwr fab Immer beth ddwedodd Jeremeia. (Pashchwr oedd yr offeiriad oedd yn gyfrifol am gadw trefn yn y deml.)

2 A dyma fe'n gorchymyn arestio Jeremeia, ei guro a'i rwymo mewn cyffion wrth Giât Uchaf Benjamin yn y deml.

3 Y bore wedyn dyma Pashchwr yn gollwng Jeremeia'n rhydd. A dyma Jeremeia'n dweud wrtho, “Nid Pashchwr mae'r ARGLWYDD yn dy alw di ond ‘Dychryn ym mhobman.’

4 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di a dy ffrindiau wedi dychryn am eich bywydau. Byddi'n edrych arnyn nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion. Dw i'n mynd i roi pobl Jwda yn nwylo brenin Babilon. Bydd e'n cymryd rhai yn gaeth i Babilon, a bydd rhai yn cael eu lladd.

5 Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo'r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda.

6 Byddi di a dy deulu, dy weision a dy forynion i gyd, yn cael eich cymryd yn gaethion i Babilon. Dyna ble byddi di a dy ffrindiau'n marw ac yn cael eich claddu, sef pawb y buost ti'n pregethu celwydd iddyn nhw ac yn dweud y byddai popeth yn iawn.’”

Jeremeia'n cwyno am yr ymateb i'w neges

7 ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i,a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny.Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti'n gryfach na fi.A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl.Mae pawb yn chwerthin ar fy mhen i!

8 Bob tro dw i'n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi,“Mae trais a dinistr yn dod!”Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneudyn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy'r amser.

9 Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto.Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!”Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi.Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn.Dw i'n trïo fy ngorau i'w ddal yn ôl,ond alla i ddim!

10 Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i.“‛Dychryn ym mhobman‛ wir!Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!”Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i miyn disgwyl i'm gweld i yn baglu.“Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion,wedyn byddwn ni'n gallu dial arno!”

11 Ond mae'r ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig.Felly, y rhai sy'n fy erlid i fydd yn baglu.Fyddan nhw ddim yn ennill!Byddan nhw'n teimlo cywilydd mawr am eu methiant.Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio!

12 O ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n profi'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.Ti'n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu.Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud.Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.

13 Canwch i'r ARGLWYDD! Molwch yr ARGLWYDD!Mae e'n achub y tlawd o afael pobl ddrwg.

14 Melltith ar y diwrnod ces i fy ngeni!Does dim byd da am y diwrnod y cafodd mam fi.

15 Melltith ar y person roddodd y newyddion i dada'i wneud mor hapus wrth ddweud,“Mae gen ti fab!”

16 Boed i'r person hwnnw fod fel y trefi hynnygafodd eu dinistrio'n ddidrugaredd gan yr ARGLWYDD;yn clywed sŵn sgrechian yn y bore,a sŵn gweiddi yn y rhyfel ganol dydd!

17 Pam wnaeth e ddim fy lladd i cyn i mi ddod allan o'r groth?Byddai croth fy mam yn fedd i mi,a hithau'n feichiog am byth.